Braslun Glanyfferi
Mae poblogaeth Glanyfferi tua 1400 ac yn godi. Mae’r sefyllfa brydferth ar aber tywodlyd y Tywi ynghyd a chysylltiadau cyfathrebu ac agosrwydd i Gaerfyrddin a Llanelli yn ei wneud yn lleoliad dewisol am deuluoedd ifanc a phobl wedi ymddeol.
Yn ganol pentref Glanyfferi ger yr orsaf, mae Eglwys Sant Thomas, Ysgol gynradd (VCP Glanyfferi), Y Clwb Hwylio, Bad Achub, Swyddfa’r Bost, bwyty pysgod a sglodion yn gwerthu cynnyrch lleol (The Ferry Cabin), tafarn (Y Llew Gwyn) a siop pob peth.
Mae digon o barcio ar sgwâr y pentref ar gyfer y traeth, gorsaf a chanol y pentref.
Ar ben y dde'r pentref mae’r Three Rivers Hotel, Brasserie a Clwb Hamdden , gyda pharc carafanau gwyliau. Ar ben y gogledd mae caeau chwarae mawr gyda Chlwb Chwaraeon a Cymdeithasol yn cynnig ystod eang o weithgareddau ar gyfer y gymuned oll a pharcio da. Ger y caeau chwarae mae Canolfan Addysg y Sir sydd yn cynnwys cyrsiau dyddiol a phreswyl ar gyfer oedolion a phlant.
Mae golygfa wych gan Eglwys Llanismel yn ei leoliad ar yr heol arfordirol rhwng Glan y Fferi a Cydweli. Wedi’i leoli ar ffordd pererindod i Dy Ddewi adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 13eg canrif gyda gwaith ychwanegol yn ystod oes Fictoria (1861). Fel rhan o’r nodweddion neilltuol mae ffenest lliw comisiynwyd gan deulu Mansel oedd yn byw yn Iscoed (plas trawiadol wedi’i difetha yn ochr gogledd y pentref).
Braslun Llansaint
Lleoli’r pentref prydferth Llansaint o amgylch Eglwys Hynafol gyda’i thwr wen.
Mae Llansaint yn elwa o agosrwydd i Gaerfyrddin a Llanelli ac yn lleoliad dewisol am deuluoedd ifanc a phobl wedi ymddeol.
Mae’n cynnig dau dafarn, Tafarn y Brenin a’r Joiners (sydd yn enwog am ei thîm dartiau), mae’r ddau yn darparu prydau bwyd. Mae gan y pentref cae chwarae mawr a Neuadd Gymunedol sydd yn cael ei defnyddio gan yr hen a’r ifanc. Mae’r Gymuned yn elwa o Glwb Garddio, Sefydliad y Merched a Chlwb Ieuenctid ynghyd a phwyllgor Neuadd Gymunedol weithgar. Mae yna hefyd Capel (Capel Annibynnol Tabor).