Gwybodaeth y Cyngor
Mae Cyngor Cymuned Llanismel yn gwasanaethu ardal 1792 hectarau, gyda phentrefi yn cynnwys Glan y Fferi, Llansaint, Broadlay a Broadway.
Mae Cyngor Cymuned Llanismel yn cynnwys deuddeg aelod etholiadol gyda saith o ddosbarth Glan y Fferi, tri a dosbarth Llansaint a dau o ddosbarth Picton. (Gweddill cymuned Llanismel). Mae aelodau yn sefyll am y swydd bob pedair blwyddyn. Cynrychiolwyd y Cyngor Cymuned ar y Cyngor Sir gan aelod dosbarth Llanismel a Llandyfaelog.
Mae Cyngor Cymuned Llanismel yn cwrdd ar Nos Fawrth cyntaf y mis, ac eithrio Awst i drafod materion yn codi yn y gymuned. Mae’r dyletswyddau yn cynnwys diogelwch a chynnal a chadw’r pentrefi, adolygu ceisiadau cynllunio ac wrth gwrs materion i godi gyda’r Cyngor Sir. Rhydem yn gweithio yn agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ac Un Llais Cymru er mwyn wneud ein hardal brydferth yn lle croesawgar ar gyfer ymwelwyr.
Mae’r Cyngor yn cyflogi Clerc rhan amser, mae’r Clerc yn Swyddog Cywir a Swyddog Ariannol Cyfrifoldeb o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r Clerc a 5 aelod yn siarad Cymraeg ac yn medru delio gyda chwestiynau wrth y Cyhoedd yn Gymraeg neu Saesneg. Mae gwaith gweinyddol y Cyngor yn cael eu gwneud gan y Clerc gyda galwadau ffôn swyddogol trwy’r Clerc.
Gellir gweld cyfansoddiad y Cyngor trwy gysylltu’r Clerc ar clerk@stishmaelscc.org.uk
* hysbysebir eithriadau a chyfarfodydd neilltuol